法律人 LawPlayer logo

資料由法律人 LawPlayer整理提供·UK legislation / curated by LawPlayer from legislation.gov.uk

Statutory Instrument

The Environmentally Sensitive Areas Designation (Wales) (Welsh Language Provisions) Order 1990

Citation
S.I. 1990/1693
As at
Sections
8
Section 1Citation, commencement and interpretation

(1) This Order may be cited as the Environmentally Sensitive Areas Designation (Wales) (Welsh Language Provisions) Order 1990 and shall come into force on 12th September 1990.

(2) In this Order—

“agreement” means an agreement under section 18(3) of the Agriculture Act 1986;

“requirements” means requirements as to agricultural practices, methods and operations and the installation or use of equipment specified in an order made under section 18 of the Agriculture Act 1986 and which must be included in an agreement.

(3) Except where otherwise expressly provided, any reference in this Order to a numbered Schedule shall be construed as a reference to the Schedule bearing that number in this Order.

Section 2Prescribed versions of definitions, requirements and additional provisions

The requirements and definitions specified in Schedule 1 are hereby prescribed as versions in Welsh which may be included in an agreement as respects land in the area designated by article 3 of the Environmentally Sensitive Areas (Cambrian Mountains) Designation Order 1986 or as respects land in the area designated by article 3 of the Environmentally Sensitive Areas (Cambrian Mountains — Extension) Designation Order 1987 in place of the definitions and requirements respectively specified in article 2(1) of and the Schedule to each of those Orders.

Section 3Prescribed versions of definitions, requirements and additional provisions

The requirements and definitions specified in Schedule 2 are hereby prescribed as versions in Welsh which may be included in an agreement as respects land in the area designated by article 3 of the Environmentally Sensitive Areas (Lleyn Peninsula) Designation Order 1987 in place of the definitions and requirements respectively specified in article 2(1) of and Schedule 1 to that Order.

Section 4Prescribed versions of definitions, requirements and additional provisions

The additional provisions and definitions specified in Schedule 3 are hereby prescribed as versions in Welsh which may be included in an agreement as respects land in the area designated by article 3 of the Environmentally Sensitive Areas (Lleyn Peninsula) Designation Order 1987 in place of the definitions and additional provisions as to agricultural practices, methods and operations and the installation and use of equipment respectively specified in article 2(1) of and Schedule 2 to that Order.

Section 1

O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb (i) ac nad yw'n goetir llydanddail (ii)—

(1) rhaid i'r ffermwr (iii) gadw porfeydd garw lled-naturiol (iv) a gweirgloddiau gwair (v);

(2) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio ag aredig, gwastatau, ailhadu neu drin tir;

(3) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio, yn achos gweirgloddiau gwair (v), â thorri ar gyfer gwair neu silwair cyn 15 Gorffennaf mewn unrhyw flwyddyn;

(4) rhaid i'r ffermwr (iii) gadw da byw allan o'r gweirgloddiau gwair (v) am o leiaf saith wythnos cyn y toriad cyntaf ar gyfer gwair neu silwair;

(5) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â gosod unrhyw system draenio newydd na newid yn sylweddol unrhyw system draenio bresennol;

(6) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio—

(a) â thaenu calch,

(b) ac eithrio yn achos gweirgloddiau gwair (v), â thaenu gwrtaith anorganig neu fasig slag,

(c) yn achos gweirgloddiau gwair (v), â chynyddu'r cyfraddau taenu presennol ar gyfer gwrtaith anorganig a rhaid peidio â thaenu mwy na 25kg o nitrogen, 12.5kg o ffosffad a 12.5kg o botash yr hectar ar y gweirgloddiau hynny mewn unrhyw flwyddyn;

(7) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â thaenu pryfleiddiaid;

(8) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â thaenu llysleiddiaid ac eithrio i reoli rhedyn (Pteridium aquilinum), danadl (Urtica dioica), marchysgall (Cirsium vulgare), ysgall yr âr (Cirsium arvense), dail tafol cyrliog (Rumex crispus), dail tafol llydan (Rumex obtusifolius) neu lysiau'r gingroen (Senecio jacobaea) ac yna trwy driniaeth smotyn neu sychydd chwyn yn unig ac yn achos rhedyn (Pteridium aquilinum) trwy chiwstrellu cyffredinol;

(9) rhaid i'r ffermwr (iii) reoli rhedyn (Pteridium aquilinum) yn unig trwy gyfrwng asulam neu gemegyn arall a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol;

(10) rhaid i'r ffermwr (iii) losgi eithin, grug neu laswellt yn unol â rhaglen a gytunir ymlaen llaw â'r Ysgrifennydd Gwladol;

(11) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â chodi perthi, muriau neu ffensys newydd;

(12) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â dileu unrhyw berth, mur neu glawdd presennol (heblaw ffensys gwifren);

(13) rhaid i'r ffermwr (iii) gael cyngor ysgrifenedig oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol ynghylch lleoli, cynllunio a deunyddiau cyn adeiladu neu newid adeiladau neu ffyrdd neu wneud unrhyw waith peirianegol arall a awdurdodwyd o dan Ran 6 o Atodlen 2 Gorchymyn Datblygu Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1988 . Ni fydd y gofyniad hwn yn gymwys i unrhyw ddatblygiad y cyflwynwyd rhybudd sy'n cyfyngu ar y datblygiad a ganiateir mewn perthynas ag ef o dan erthygl 5 Gorchymyn Datblygu Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1988;

(14) rhaid i'r ffermwr (iii) bori porfeydd garw lled-naturiol (iv) â gwartheg neu ddefaid, yn o*l graddfa stocio flynyddol nad ydyw, ar gyfartaledd, yn fwy na 0.75 uned da byw (vi) yr hectar ond beth bynnag heb achosi gorbori;

(15) rhaid i'r ffermwr (iii), wrth ffermio'r tir, sicrhau nad yw'n difrodi nac yn dinistrio unrhyw nodwedd archaeolegol neu hanesyddol os yw'r Ysgrifennydd Gwladol wedi'i hysbysu'n ysgrifenedig am ei bodolaeth;

(16) rhaid i'r ffermwr (iii) gadw a gofalu am bob llyn, pwll dw*r a nant;

(17) rhaid i'r ffermwr (iii) reoli plâu mewn modd cyfreithiol.

Section 2

O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb (i) ac yn goetir llydanddail (ii)—

(1) rhaid i'r ffermwr (iii) gadw coetir llydanddail (ii) presennol;

(2) rhaid i'r ffermwr (iii) gadw stoc allan o goetir llydanddail (ii);

(3) rhaid i'r ffermwr (iii) o fewn dwy flynedd ar o*l dechrau'r cytundeb (i), gael cyngor ysgrifenedig ynghylch rheoli coetir llydanddail (ii) oddi wrth y personau neu'r cyrff a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol;

(4) rhaid i'r ffermwr (iii) reoli plâu mewn modd cyfreithiol. Diffiniadau

(i) ystyr “cytundeb” yw cytundeb o dan adran 18(3) Deddf Amaethyddiaeth 1986 mewn perthynas â thir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Mynyddoedd Cambria) 1986 neu yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Mynyddoedd Cambria—Estyniad) 1987 , fel y bo'n briodol;

(ii) ystyr “coetir llydanddail” yw tir a defnyddir at goetir llydanddail lle mae'r defnydd hwnnw yn atodol i amaethu'r tir at ddibenion amaethyddol eraill;

(iii) ystyr “ffermwr” yw person sydd â diddordeb mewn tir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Mynyddoedd Cambria) 1986 neu yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Mynyddoedd Cambria—Es-tyniad) 1987, fel y bo'n briodol, ac sydd wedi gwneud cytundeb â'r Ysgrifennydd Gwladol;

(iv) ystyr “tir pori lled-naturiol” yw tir lle mae'r llystyfiant yn cynnwys yn bennaf y gawnen benddu (Agrostis), peisgwellt (Festuca), rhedyn (Pteridium aquilinum), gwair porffor y gweunydd (Molinia caerulea), gwair mat (Nardus stricta) , grug (Calluna vulgaris neu Erica) , llus (Vaccinium) , plu'r gweunydd (Eriophorum) neu wair ceirw (Trichophorum) ;

(v) ystyr “gweirglodd wair” yw gweirglodd a dorrir yn y dull traddodiadol a'i llystyfiant yn cynnwys cymysgedd o wair, hesg a blodau gwyllt cynhenid;

(vi) ystyr “uned da byw” yw—

(a) 1 fuwch, neu

(b) 1.25 anifail o deulu'r ych (heblaw buchod) dros ddwy oed, neu

(c) 1.6 anifail o deulu'r ych (heblaw buchod) o un oed i ddwy oed yn gynwysedig, neu

(d) 2.5 anifail o deulu'r ych o dan un oed, neu

(e) 6.66 o ddefaid.

Yn y diffiniad hwn ystyr “buwch” yw anifail benyw o deulu'r ych sydd wedi bwrw llo o leiaf ddwywaith.

Section 1

O ran unrhyw dir sy'n destun y cytundeb (i) ac sy'n dir garw (ii)—

(1) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â gosod unrhyw system draenio newydd na newid yn sylweddol unrhyw system draenio bresennol;

(2) rhaid i'r ffermwr (iii) bori â gwartheg neu ddefaid, yn o*l graddfa stocio flynyddol nad ydyw, ar gyfartaledd, yn fwy na 0.75 uned da byw (iv) yr hectar ond beth bynnag heb achosi sathru, tanbori neu orbori;

(3) rhaid i'r ffermwr (iii) losgi eithin, grug neu laswellt yn unol â rhaglen a gytunir ymlaen llaw â'r Ysgrifennydd Gwladol;

(4) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â thaenu unrhyw fath o wrtaith, slyri, calch, basig slag neu unrhyw sylwedd arall a gynlluniwyd i leihau asidedd y pridd;

(5) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â thaenu pryfleiddiaid;

(6) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â thaenu llysleiddiaid ac eithrio i reoli rhedyn (Pteridium aquilinum) , danadl (Urtica dioica) , marchysgall (Cirsium vulgare) , ysgall yr âr (Cirsium arvense) , dail tafol cyrliog (Rumex crispus) , dail tafol llydan (Rumex obtusifolius) neu lysiau'r gingroen (Senecio jacobaea) ac yna trwy driniaeth smotyn neu sychydd chwyn yn unig ac, yn achos rhedyn (Pteridium aquilinum) , trwy chwistrellu cyffredinol;

(7) rhaid i'r ffermwr (iii) reoli rhedyn (Pteridium aquilinum) yn unig trwy gyfrwng asulam neu gemegyn arall a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu drwy dorri neu falu.

Section 2

O ran unrhyw dir sy'n destun y cytundeb (i) ac yn weirglodd wair (v)—

(1) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â thorri ar gyfer gwair neu silwair cyn 8 Gorffennaf mewn unrhyw flwyddyn;

(2) rhaid i'r ffermwr (iii) dorri o leiaf unwaith ar gyfer gwair neu silwair ar o*l 7 Gorffennaf mewn unrhyw flwyddyn;

(3) rhaid i'r ffermwr (iii) gadw da byw allan rhwng 15 Mai a'r toriad cyntaf ar gyfer gwair neu silwair mewn unrhyw flwyddyn;

(4) rhaid i'r ffermwr (iii), cyhyd â'i fod yn bodloni'r gofyniad yn yr is-baragraff blaenorol, bori gwartheg a defaid rhwng 8 Gorffennaf mewn unrhyw flwyddyn a 15 Mai yn y flwyddyn ganlynol yn o*l cyfradd stocio nad ydyw, ar gyfartaledd, yn fwy nag un uned da byw (iv) yr hectar ond beth bynnag heb achosi sathru, tanbori neu orbori;

(5) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â gosod unrhyw system draenio newydd na newid yn sylweddol unrhyw system draenio bresennol;

(6) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â thaenu unrhyw wrtaith anorganig, calch, basig slag neu sylwedd arall a gynlluniwyd i leihau asidedd y pridd;

(7) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â thaenu unrhyw wrtaith ar wahân i dail neu slyri;

(8) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â chynyddu cyfraddau presennol taenu tail neu slyri a beth bynnag rhaid iddo beidio â thaenu mwy na 12.5 tunnell fetrig o dail neu slyri yr hectar y flwyddyn;

(9) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â thaenu pryfleiddiaid;

(10) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â thaenu unrhyw lysleiddiaid ac eithrio i reoli rhedyn (Pteridium aquilinum) , danadl (Urtica dioica) , marchysgall (Cirsium vulgare) , ysgall yr âr (Cirsium arvense) , dail tafol cyrliog (Rumex crispus) , dail tafol llydan (Rumex obtusifolius) neu lysiau'r gingroen (Senecio jacobaea) ac yna trwy driniaeth smotyn neu sychydd chwyn yn unig ac yn achos rhedyn (Pteridium aquilinum) trwy chwistrellu cyffredinol;

(11) rhaid i'r ffermwr (iii) reoli rhedyn (Pteridium aquilinum) yn unig trwy gyfrwng asulam neu gemegyn arall a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu drwy dorri neu falu. Diffiniadau

(i) ystyr “cytundeb” yw cytundeb o dan adran 18(3) Deddf Amaethyddiaeth 1986 mewn perthynas â thir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Penrhyn Llŷn) 1987;

(ii) ystyr “tir garw” yw gweundir, corsydd, tir gwlyb neu dir glas lled-naturiol;

(iii) ystyr “ffermwr” yw person sydd â diddordeb mewn tir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Penrhyn Llŷn) 1987 ac sydd wedi gwneud cytundeb â'r Ysgrifennydd Gwladol;

(iv) ystyr “uned da byw” yw—

(a) 1 fuwch, neu

(b) 1.25 anifail o deulu'r ych (heblaw buchod) dros ddwy oed, neu

(c) 1.6 anifail o deulu'r ych (heblaw buchod) o un oed i ddwy oed yn gynwysedig, neu

(d) 2.5 anifail o deulu'r ych o dan un oed, neu

(e) 6.66 o ddefaid.

Yn y diffiniad hwn ystyr “buwch” yw anifail benyw o deulu'r ych sydd wedi bwrw llo o leiaf ddwywaith;

(v) ystyr “gweirglodd wair” yw gweirglodd a dorrir yn y dull traddodiadol a'i llystyfiant yn cynnwys cymysgedd o wair, hesg a blodau gwyllt cynhenid.

8 sections

Cite this legislation

The Environmentally Sensitive Areas Designation (Wales) (Welsh Language Provisions) Order 1990 (legislation.gov.uk, OGL v3.0). Retrieved via LawPlayer, https://lawplayer.com/uk/act/uksi-1990-1693

Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0.

OGL-3

本頁資料來源:legislation.gov.uk (The National Archives)·整理提供:法律人 LawPlayer· lawplayer.com