法律人 LawPlayer logo

資料由法律人 LawPlayer整理提供·UK legislation / curated by LawPlayer from legislation.gov.uk

Statutory Instrument

The Environmentally Sensitive Areas Designation (Radnor) (Welsh Language Provisions) Order 1994

Citation
S.I. 1994/1989
As at
Sections
23
Section 1Citation, commencement and interpretation

(1) This Order may be cited as the Environmentally Sensitive Areas Designation (Radnor) (Welsh Language Provisions) Order 1994 and shall come into force on 1st September 1994.

(2) In this Order–

“agreement” means an agreement under section 18(3) of the Agriculture Act 1986;

“the designated area” means the area designated by article 3 of the Order ;

“the Order” means the Environmentally Sensitive Areas (Radnor) Designation Order 1993 ;

“requirements” means requirements as to agricultural practices, methods and operations and the installation or use of equipment specified in an order made under section 18 of the Agriculture Act 1986 and which must be included in an agreement.

(3) Except where otherwise expressly provided, any reference in this Order to a numbered Schedule shall be construed as a reference to the Schedule bearing that number in this Order.

Section 2Prescribed forms of words in Welsh for definitions, requirements, additional provisions and conservation plan operations

The requirements and definitions specified in Schedule 1 are hereby prescribed as separate forms of words in Welsh which may be included in an agreement as respects land in the designated area in place of the definitions and requirements respectively specified in article 2(1) of and Schedule 1 to the Order.

Section 3Prescribed forms of words in Welsh for definitions, requirements, additional provisions and conservation plan operations

The additional provisions and definitions specified in Schedule 2 are hereby prescribed as separate forms of words in Welsh which may be included in an agreement as respects land in the designated area in place of the definitions and additional provisions respectively specified in article 2(1) of and Schedule 2 to the Order.

Section 4Prescribed forms of words in Welsh for definitions, requirements, additional provisions and conservation plan operations

The additional provisions and definitions specified in Schedule 3 are hereby prescribed as separate forms of words in Welsh which may be included in an agreement as respects land in the designated area in place of the definitions and additional provisions respectively specified in article 2(1) of and Schedule 3 to the Order.

Section 5Prescribed forms of words in Welsh for definitions, requirements, additional provisions and conservation plan operations

The conservation plan operations and definitions specified in Schedule 4 are hereby prescribed as separate forms of words in Welsh which may be included in an agreement as respects land in the designated area in place of the definitions and the conservation plan operations respectively specified in article 2(1) of and Schedule 4 to the Order.

Section 1O ran pob tir sy'n destun cytundeb–

(1) rhaid i'r ffermwr gadw perthi, muriau, ffensiau a chloddiau presennol gan ddefnyddio dulliau a deunyddiau traddodiadol;

(2) rhaid i'r ffermwr beidio â dileu unrhyw berthi, muriau, ffensiau (heblaw ffensiau gwifren), cloddiau neu goed perthi presennol;

(3) rhaid i'r ffermwr beidio â chodi perthi, muriau, ffensiau neu gloddiau newydd heb gymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol ymlaen llaw;

(4) rhaid i'r ffermwr beidio â thaenu ar unrhyw ffin cae neu ar lain o dir o leiaf dau fetr o led sy'n gyfagos i ffin o'r fath–

(a) calch neu unrhyw sylwedd arall sydd wedi'i gynllunio i leihau asidedd y pridd, neu

(b) gwrtaith anorganig neu organig, ffwngleiddiaid neu blaleiddiaid;

(5) rhaid i'r ffermwr beidio â thaenu llysleiddiaid ar unrhyw ffin cae nac ar lain o dir o leiaf dau fetr o led sy'n gyfagos i ffin o'r fath, ac eithrio i reoli rhedyn ( Pteridium aquilinum ), danadl ( Urtica dioica ), marchysgall ( Cirsium vulgare ), ysgall yr âr ( Cirsium arvense ), dail tafol cyrliog ( Rumex crispus ), dail tafol llydan ( Rumex obtusifolius ), llysiau'r gingroen ( Senecio jacobaea ) a chanclwm Siapaneaidd ( Reynoutria Japonica ) ac yna drwy driniaeth smotyn neu sychydd chwyn yn unig ac yn achos rhedyn ( Pteridium aquilinum ) drwy chwistrellu cyffredinol;

(6) rhaid i'r ffermwr gadw a gofalu am bob llyn, pwll a nant bresennol;

(7) rhaid i'r ffermwr, wrth ffermio'r tir, sicrhau nad yw'n difrodi nac yn dinistrio unrhyw nodweddion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol;

(8) rhaid i'r ffermwr beidio â dileu unrhyw brysg neu goed llydanddail heb gymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol ymlaen llaw;

(9) rhaid i'r ffermwr, cyn plannu unrhyw goed at ddibenion amaethyddol, sicrhau cyngor ysgrifenedig oddi wrth berson neu gorff a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol ynghylch lleoli a rheoli'r coed hynny;

(10) rhaid i'r ffermwr beidio â dileu unrhyw greigiau o frigiadau craig;

(11) rhaid i'r ffermwr gadw unrhyw adeiladau fferm traddodiadol gwrth–dywydd y mae'n gyfrifol amdanynt mewn cyflwr gwrth–dywydd gan ddefnyddio deunyddiau traddodiadol neu ddeunyddiau eraill y mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi cymeradwyo eu defnyddio;

(12) rhaid i'r ffermwr gael cyngor ysgrifenedig oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol ynghylch lleoli, cynllunio a deunyddiau cyn adeiladu neu newid adeiladau neu ffyrdd neu wneud unrhyw waith peirianegol neu waith adeiladu arall nad oes angen rhoi gwybod amdano ymlaen llaw neu ei benderfynu gan yr awdurdod cynllunio lleol o dan y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1988 , neu ganiatâd cynllunio;

(13) rhaid i'r ffermwr reoli plâu mewn modd cyfreithiol.

Section 2O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb ac sy'n dir glas amgaee dig wedi'i wella'n rhannol, tir glas amgaee dig heb ei wella, gweirglodd, porfeydd garw lled–naturiol, tir gwlyb neu glustogfa–

(1) rhaid i'r ffermwr beidio ag aredig, gwastata u, ail–hadu, trin neu, ac eithrio yn achos tir glas amgaee dig sydd wedi'i wella'n rhannol neu weirglodd, defnyddio og gadwyni neu roler;

(2) rhaid i'r ffermwr, yn achos tir glas amgaee dig sydd wedi'i wella'n rhannol neu weirglodd, beidio â defynddio og gadwyni neu roler rhwng 31 Mawrth a 15 Gorffennaf mewn unrhyw flwyddyn;

(3) rhaid i'r ffermwr beidio â gosod unrhyw system draenio newydd na newid yn sylweddol unrhyw system draenio bresennol;

(4) rhaid i'r ffermwr beidio â thaenu calch neu unrhyw sylwedd arall sydd wedi'i gynllunio i leihau asidedd y pridd;

(5) yn ddarostyngedig i is–baragraff (6) isod, rhaid i'r ffermwr beidio â thaenu unrhyw wrtaith anorganig neu organig;

(6) rhaid i'r ffermwr, yn achos tir glas amgaee dig sydd wedi'i wella'n rhannol neu weirglodd, ac yn ddarostyngedig i is–baragraff (4) paragraff 1 yr Atodlen hon, beidio â thaenu mwy na 12.5 tunnell o wrtaith buarth am bob hectar bob blwyddyn;

(7) rhaid i'r ffermwr beidio â thaenu ffwngleiddiaid neu bryfleiddiaid;

(8) rhaid i'r ffermwr beidio â thaenu llysleiddiaid ac eithrio i reoli rhedyn ( Pteridium aquilinum ), danadl ( Urtica dioica ), marchysgall ( Cirsium vulgare ), ysgall yr âr ( Cirsium arvense ), dail tafol cyrliog ( Rumex crispus ), dail tafol llydan ( Rumex obtusifolius ), llysiau'r gingroen ( Senecio jacobaea ) a chanclwm Siapaneaidd ( Reynoutria Japonica ) ac yna drwy driniaeth smotyn neu sychydd chwyn yn unig ac yn achos rhedyn ( Pteridium aquilinum ) drwy chwistrellu cyffredinol;

(9) rhaid i'r ffermwr reoli rhedyn ( Pteridium aquilinum ) trwy gyfrwng mecanegol neu trwy gyfrwng asulam neu gemegyn arall a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unig;

(10) rhaid i'r ffermwr losgi grug, glaswellt a phrysg yn unol â rhaglen y cytunir arni ymlaen llaw gyda'r Ysgrifennydd Gwladol yn unig;

(11) rhaid i'r ffermwr beidio â chynyddu'r lefelau stocio presennol o wartheg a defaid heb gymeradwyaeth ysgrifenedig yr Ysgrifennydd Gwladol ymlaen llaw;

(12) rhaid i'r ffermwr beidio â phori'r tir gyda gwartheg neu ddefaid yn o*l graddfa stocio sy'n achosi gor–bori neu sathru, ond–

(a) o ran porfeydd garw lled–naturiol sydd heb eu hamga u ac nad ydynt yn cynnwys grug, rhaid beth bynnag iddo beidio â phori gyda gwartheg neu ddefaid yn o*l graddfa stocio flynyddol gyfartalog sy'n fwy na 0.36 uned da byw yr hectar; a

(b) o ran porfeydd garw lled–naturiol sydd heb eu hamga u ond sy'n cynnwys grug neu dir glas amgaee dig sydd wedi'i wella'n rhannol sy'n cynnwys grug, rhaid beth bynnag iddo beidio â phori gyda gwartheg neu ddefaid yn o*l graddfa stocio flynyddol gyfartalog sy'n fwy na 0.22 uned da byw yr hectar;

(13) rhaid i'r ffermwr gyfyngu ar roi bwyd ategol i dda byw i fannau y cytunir arnynt ymlaen llaw gyda'r Ysgrifennydd Gwladol.

Section 1O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb ac sy'n dir gwlyb:–

(1) rhaid i'r ffermwr, cyn pen chwe mis ar o*l dechrau'r cytundeb, gytuno yn ysgrifenedig gyda'r Ysgrifennydd Gwladol–

(a) ar raglen reoli ar gyfer y tir gwlyb, a

(b) ar raddfa amser ar gyfer gweithredu'r rhaglen reoli honno;

(2) rhaid i'r ffermwr, cyn pen pymtheng mis ar o*l dechrau'r cytundeb, ddechrau gwaith ar y rhaglen reoli ar gyfer y tir gwlyb y cytunwyd arni gyda'r Ysgrifennydd Gwladol;

(3) rhaid i'r ffermwr beidio â gwneud unrhyw waith i gynnal systemau traenio presennol.

Section 2O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb ac sy'n goetir llydanddail–

(1) rhaid i'r ffermwr gadw da byw allan;

(2) rhaid i'r ffermwr, cyn pen chwe mis ar o*l dechrau'r cytundeb, gael cyngor ysgrifenedig ynghylch rheoli'r coetir llydanddail oddi wrth berson neu gorff a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol;

(3) rhaid i'r ffermwr, cyn pen naw mis ar o*l dechrau'r cytundeb, gytuno yn ysgrifenedig gyda'r Ysgrifennydd Gwladol–

(a) ar raglen reoli i adfywio'r coetir llydanddail, a

(b) ar raddfa amser ar gyfer gweithredu'r rhaglen reoli honno;

(4) rhaid i'r ffermwr, cyn pen pymtheng mis ar o*l dechrau'r cytundeb, ddechrau gwaith ar y rhaglen reoli i adfywio'r coetir llydanddail y cytunwyd arni gyda'r Ysgrifennydd Gwladol.

Section 3O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb ac sy'n weirglodd–

(1) rhaid i'r ffermwr beidio â thorri ar gyfer gwair neu silwair cyn 15 Gorffennaf mewn unrhyw flwyddyn;

(2) rhaid i'r ffermwr dorri o leiaf unwaith ar gyfer gwair neu silwair ar o*l 14 Gorffennaf mewn unrhyw flwyddyn a rhaid iddo bori adladd pob toriad;

(3) rhaid i'r ffermwr gadw da byw allan am o leiaf saith wythnos cyn y toriad cyntaf ar gyfer gwair neu silwair mewn unrhyw flwyddyn.

Section 4O ran unrhyw borfeydd garw lled–naturiol sy'n destun cytundeb a lle mae grug yn 25 y cant o leiaf ond heb fod yn fwy na 50 y cant o'r gorchudd llystyfiant–

(1) rhaid i'r ffermwr bori gyda gwartheg neu ddefaid yn o*l graddfa stocio flynyddol gyfartalog nad yw'n fwy na 0.15 uned da byw yr hectar;

(2) rhaid i'r ffermwr, rhwng 1 Medi mewn unrhyw flwyddyn a 31 Mawrth yn y flwyddyn ganlynol, bori gyda gwartheg neu ddefaid yn o*l graddfa stocio flynyddol gyfartalog nad yw'n fwy na 0.10 uned da byw yr hectar.

Section 5O ran unrhyw dir âr sy'n destun cytundeb ac sy'n addas ar gyfer creu pentiroedd cadwraeth–

(1) rhaid i'r ffermwr beidio â thaenu ffwngleiddiaid neu bryfleiddiaid, ac eithrio rhwng 31 Awst mewn unrhyw flwyddyn a l Ionawr yn y flwyddyn ganlynol;

(2) rhaid i'r ffermwr beidio â thaenu llysleiddiaid ar y tir ond fel y cytunwyd ymlaen llaw gyda'r Ysgrifennydd Gwladol ac eithrio na fydd y gofyniad hwn yn gymwys wrth daenu llysleiddiaid ar y rhan honno o'r tir sy'n ffurfio llain o dir un metr o led ac sy'n gyfagos i fan sydd o dan gnwd.

Section 6O ran unrhyw dir âr sy'n destun cytundeb ac sy'n addas ar gyfer creu pentiroedd cadwraeth–

O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb ac sy'n addas i'w droi'n o*l yn borfeydd garw lled– naturiol, rhaid i'r ffermwr barchu gofynion paragraff (2) Atodlen 1, heblaw is–baragraffau (2) a (6) y paragraff hwnnw, a pharagraff 4 yr Atodlen hon.

Section 7O ran unrhyw dir âr sy'n destun cytundeb ac sy'n addas ar gyfer creu pentiroedd cadwraeth–

O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb ac sy'n addas i'w droi'n o*l yn weirglodd, rhaid i'r ffermwr barchu gofynion paragraff 2 Atodlen 1 a pharagraff 3 yr Atodlen hon.

Section 8O ran unrhyw dir âr sy'n destun cytundeb ac sy'n addas ar gyfer creu pentiroedd cadwraeth–

O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb ac sy'n addas i'w droi'n o*l yn dir gwlyb, rhaid i'r ffermwr barchu gofynion paragraff 2 Atodlen 1, heblaw is–baragraffau (2) a (6) y paragraff hwnnw, a pharagraff 1 yr Atodlen hon.

Section 1

Adfer pyllau.

Section 2

Creu ac adfer gwarchodfeydd bywyd gwyllt ar hyd nentydd.

Section 3

Adfer grug.

Section 4

Adfywio grug drwy ei losgi neu ei ffustio.

Section 5

Ail–greu gweirgloddiau cyfoethog eu blodau.

Section 6

Adfer adeiladau fferm traddodiadol.

Section 7

Rheoli rhedyn ( Pteridium aquilinum ).

Section 8

Rheoli canclwm Siapaneaidd ( Reynoutria Japonica ).

23 sections

Cite this legislation

The Environmentally Sensitive Areas Designation (Radnor) (Welsh Language Provisions) Order 1994 (legislation.gov.uk, OGL v3.0). Retrieved via LawPlayer, https://lawplayer.com/uk/act/uksi-1994-1989

Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0.

OGL-3

本頁資料來源:legislation.gov.uk (The National Archives)·整理提供:法律人 LawPlayer· lawplayer.com