After note 53, insert—
(53A) Atebwch “Ydwyf/Ydyw” i'r cwestiwn hwn os—
(i) ydych chi, neu'ch partner, o dan 60 oed a bod un neu fwy o'r amodau canlynol wedi'u bodloni:
(a) eich bod chi, neu'ch partner, yn cael lwfans gweini, lwfans byw i'r anabl, lwfans gweithio i'r anabl, atodiad symud-o-gwmpas, budd-dâl analluogrwydd tymor-hir neu lwfans anabledd difrifol (ond yn achos budd-dâl analluogrwydd tymor-hir neu lwfans anabledd difrifol, dim ond lle y'i telir mewn perthynas â'r person sy'n cael y budd-dâl neu'r lwfans);
(b) eich bod chi, neu'ch partner, wedi peidio â chael budd-dâl analluogrwydd tymor-hir (neu, os yw paragraff (ii) yn gymwys, eich bod chi neu'ch partner wedi peidio â chael pensiwn analluedd cyn 13 Ebrill 1995) oherwydd talu pensiwn ymddeol ac, yn achos eich partner, ei fod ef/ei bod hi yn dal yn aelod o'ch teulu;
(c) eich bod chi, neu'ch partner, wedi bod yn cael lwfans gweini neu lwfans byw i'r anabl ond bod taliadau budd-dâl wedi'u hatal o dan adran 113(2) Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;
(d) y darparwyd ar eich cyfer chi, neu'ch partner, gerbyd anabl neu gerbyd arall neu grant ar gyfer cerbyd o'r fath, o dan ddeddfwriaeth Cymru a Lloger neu'r Alban;
(e) eich bod chi, neu'ch partner, wedi'ch cofrestru'n ddall neu wedi peidio â bod wedi'ch cofrestru felly ddim mwy nag 28 wythnos yn ôl;
(f)
(i) eich bod yn methu â gweithio o dan Ran XIIA Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992; ac eich bod wedi methu â gweithio, neu'ch bod wedi cael eich trin fel petaech yn methu â gweithio am o leiaf y 364 diwrnod diwethaf yn ddi-dor neu, os ydych yn derfynol sâl, am o leiaf y 196 diwrnod diwethaf yn ddi-dor (gan gynnwys unrhyw gyfnod o analluogrwydd yn dod cyn 13 Ebrill 1995 ac yn bodloni amod (f)(ii) isod; ac anwybyddwch unrhyw doriad neu doriadau o hyd at 56 diwrnod yr un rhwng cyfnodau o analluogrwydd, a phan fyddwch wedi cwblhau'r cyfnod cymhwyso, unrhyw gyfnod o hyfforddiant cyflogaeth neu unrhyw gyfnod pan fuoch yn cael lwfans hyfforddiant); neu
(ii) yn union cyn 13 Ebrill 1995, mewn perthynas â chyfnod di-dor o ddim llai nag 28 wythnos, eich bod chi neu'ch partner,—wedi darparu tystiolaeth o analluogrwydd yn unol â rheoliad 2 y Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Tystiolaeth Feddygol) 1976 (neu ddeddfwriaeth gyfatebol Gogledd Iwerddon) fel yr oedd bryd hynny mewn grym i ategu cais am fudd-dâl salwch, pensiwn analluedd neu lwfans anabledd difrifol o fewn ystyr adrannau 31, 33 neu 68 Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 (neu ddeddfwriaeth gyfatebol Gogledd Iwerddon) fel yr oedd bryd hynny mewn grym, cyn belled ag na wnaeth swyddog dyfarnu benderfynu nad oeddech chi, neu yn ôl y digwydd, eich partner yn methu â gweithio, neu
yn cael tâl salwch statudol o dan Ran XI Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 fel yr oedd mewn grym ar y pryd;
ac o 13 Ebrill 1995 ymlaen eich bod chi, neu yn ôl y digwydd, eich partner, wedi parhau i fethu â gweithio yn unol â Rhan XIIA Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 yn ddi-dor (anwybyddwch unrhyw doriad neu doriadau o hyd at 56 diwrnod yr un rhwng cyfnodau o analluogrwydd);
(ii) eich bod chi, neu'ch partner, yn llai na 80 oed ond ddim yn llai na 60 oed a bod un neu fwy o amodau (a) i (f) ym mharagraff (i) wedi'u bodloni (ond yn achos amod (f)(i), pan fyddwch wedi cwblhau'r cyfnod cymhwyso, ni ellir anwybyddu unrhyw gyfnod o hyfforddiant cyflogaeth nac unrhyw gyfnod pan fuoch yn cael lwfans hyfforddiant); neu
(iii) y byddai paragraff (i) neu (ii) yn gymwys i'ch partner, oni bai bod eich partner yn cael ei drin fel petai'n gallu gweithio drwy ddyfarniad o dan adran 171E Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992; neu
(iv) y buoch, neu'ch bod wedi'ch trin fel petaech yn methu â gweithio o dan Ran XIIA Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 am gyfnod di-dor o o leiaf 196 diwrnod (anwybyddwch unrhyw doriad neu doriadau o hyd at 56 diwrnod yr un rhwng cyfnodau o analluogrwydd); neu
(v) bod un neu fwy o'r canlynol (gan gynnwys y rhai sy'n cyfateb yng Ngogledd Iwerddon) yn daladwy ar eich cyfer chi neu'ch partner:
(a) budd-dâl analluogrwydd tymor-hir;
(b) budd-dâl analluogrwydd tymor-byr ar y cyfradd uchaf;
(c) lwfans gweini;
(d) lwfans anabledd difrifol;
(e) lwfans byw i'r anabl;
(f) cynnydd mewn pensiwn anabledd am weini cyson;
(g) cynnydd mewn pensiwn o dan gynllun pensiwn rhyfel neu gynllun anafiadau diwydiannol am weini, neu weini cyson, neu sy'n gyfatebol i lwfans byw i'r anabl; neu
(vi) bod un o (v)(b), (e), (f) neu (g) yn daladwy oherwydd eich analluogrwydd chi neu'ch partner ond wedi peidio â bod yn daladwy oherwydd eich bod chi neu ef/hi yn cael triniaeth feddygol am ddim neu driniaeth arall fel claf mewnol yn un o ysbytai'r NHS neu sefydliad cyffelyb neu o dan drefniadau a wnaed gan un o gyrff yr NHS neu'r Ysgrifennydd Gwladol (dalier sylw: nid yw person sy'n bwrw tymor yng ngharchar neu o dan gadwad mewn sefydliad i droseddwyr ifanc yn cael ei gyfrif fel “claf mewnol”); neu
(vii) y darperir cerbyd anabl neu gerbyd arall i chi neu'ch partner neu eich bod chi neu'ch partner yn cael lwfans am gerbyd o'r fath (gan gynnwys lle y darperir y cerbyd neu lwfans o dan ddeddfwriaeth Gogledd Iwerddon).