After note 51A, insert—
(51B) Dylech ateb “Nac ydwyf” i’r cwestiwn hwn lle darperir y gofal gennych chi neu’ch partner ar gyfer plentyn a enwyd yng nghwestiwn 3.22 a lle bo’r naill bartner yn codi tâl ar y llall am ddarparu’r gofal.
(52) Yr ysgolion a’r sefydliadau eraill y cyfeirir atynt, sydd wedi eu heithrio rhag cofrestru o dan adran 71 Deddf Plant 1989 gan baragraffau 3 a 4 Atodlen 9 y Ddeddf honno, yw:
(a) gan baragraff 3 Atodlen 9—
ysgol a gynhelir neu a gynorthwyir gan awdurdod addysg lleol;
ysgol o dan reolaeth awdurdod addysg;
ysgol y gwneir taliadau mewn perthynas â hi gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 100 Deddf Addysg 1944;
ysgol annibynnol;
ysgol a gynorthwyir â grant;
ysgol a gynhelir â grant;
ysgol hunan-lywodraethol;
canolfan chwarae a gynhelir neu a gynorthwyir gan awdurdod addysg lleol o dan adran 53 Deddf Addysg 1944;
lle bo’r plentyn o dan sylw yn derbyn gofal o dan drefniadau gofal dydd a wneir gan y person sy’n cynnal y sefydliad fel rhan o’i weithgareddau neu gan weithiwr iddo yn y sefydliad sydd wedi ei awdurdodi i wneud y trefniadau hynny fel rhan o weithgareddau’r sefydliad; a
(b) gan baragraff 4 yr Atodlen honno—
cartref plant cofrestredig;
cartref gwirfoddol;
cartref cymunedol;
cartref gofal breswyl, cartref nyrsio neu gartref nyrsio meddwl y mae gofyn eu cofrestru o dan Ddeddf Cartrefi Cofrestredig 1984;
un o ysbytai’r gwasanaeth iechyd;
cartref a gaiff ei ddarparu, ei gyfarparu a’i gynnal gan yr Ysgrifennydd Gwladol;
lle bo’r plentyn o dan sylw yn derbyn gofal o dan drefniadau gofal dydd a wneir gan yr adran, yr awdurdod neu’r person arall sy’n cynnal y sefydliad fel rhan o’i weithgareddau neu gan weithiwr yn y sefydliad sydd wedi ei awdurdodi i wneud y trefniadau hynny fel rhan o weithgareddau’r sefydliad.