Ni chaniateir i'r Cyngor dalu grant i rywun sy'n “berson o wlad dramor” o fewn ystyr rheoliad 7A o'r Rheoliadau Budd-daliadau Tai (Cyffredinol) 1987 ( O.S. 1987/1971 fel y'i diwygiwyd): rheoliad 3 o'r Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 ( O.S. 1996/2890 ).
OS bu i chi ateb “Ydwyf” neu “Ydyw” i gwestiwn 1.3 , ni ddylech fod yn gwneud cais am grant. Os na allwch ateb “Nac Ydwyf” neu “Nac ydyw” i'r cwestiwn hwn, peidiwch â mynd ymhellach gyda'r cais hwn.
Gellir crynhoi rheoliad 7A o'r Rheoliadau Budd-daliadau Tai (Cyffredinol) 1987 fel a ganlyn:
(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), “person o wlad dramor” yw person sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig a roddwyd yn unol ag unrhyw ddarpariaeth yn rheolau mewnfudo'r Swyddfa Gartref mewn perthynas â'r canlynol:
(a) nad oes, neu nad oes angen, unrhyw alw am gael arian cyhoeddus, neu
(b) na chodir unrhyw dâl ar arian cyhoeddus,
yn ystod y caniatâd cyfyngedig hwnnw.
(2) Nid yw “person o wlad dramor” yn cynnwys person—
(a) sy'n ddinesydd un o Wladwriaethau'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, gwladwriaeth sy'n un o lofnodwyr y Confensiwn Ewropaeidd ar Gymorth Cymdeithasol a Meddygol a lofnodwyd ym Mharis ar 11 Rhagfyr 1953 (Gorch. 9512), gwladwriaeth sy'n un o lofnodwyr Siarter Gymdeithasol Cyngor Ewrop a lofnodwyd yn Turin ar 18 Hydref 1961, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw; neu
(b) sydd, yn ystod unrhyw gyfnod o ganiatâd cyfyngedig, wedi'i gynnal/wedi'i chynnal ei hun heb droi at arian cyhoeddus ond sydd dros dro (h.y., am heb fod yn fwy na chyfanswm o 42 ddiwrnod yn ystod unrhyw gyfnod o ganiatâd cyfyngedig) heb arian am yr amharwyd ar daliadau iddo/iddi o dros y môr; ar y amod bod yna ddisgwyliad rhesymol y bydd ei gyflenwad/ei chyflenwad o arian yn cael ei adfer; neu
(c) sy'n chwilio am loches, hynny yw, person sydd wrth gyrraedd y Deyrnas Unedig (heblaw wrth ail-ddod i mewn) o wlad y tu allan i'r Ardal Deithio Gyffredin (h.y., y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon gyda'i gilydd) yn gwneud cais am loches i'r Ysgrifennydd Gwladol a'r Ygrifennydd Gwladol yn cofnodi bod y cais hwnnw wedi'i wneud; neu
(d) sy'n dod yn geisydd am loches tra bo'n bresennol ym Mhrydain Fawr; neu
(e) sy'n fewnfudwr a noddir (gweler paragraff (3)(f) isod) a'r person neu'r personau a ymrwymodd i ddarparu ar gyfer ei gynhaliaeth/ei chynhaliaeth a llety wedi marw; neu
(f) sy'n cael cymhorthdal incwm; neu
(g) sy'n cael lwfans chwilio am waith sy'n seiliedig ar incwm.
(3) Mae “person o wlad dramor” yn cynnwys unrhyw berson, heblaw person y mae unrhyw un o is-baragraffau (c) i (g) paragraff (2) yn gymwys iddynt—
(a) sydd, yn sgil cael caniatâd cyfyngedig i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig, wedi aros heb ganiatâd pellach y tu hwnt i'r amser a ganiatawyd gan y caniatâd; neu
(b) sy'n destun gorchymyn alltudio sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo/iddi ymadael ac yn ei wahardd/ei gwahardd rhag dod i mewn i'r Deyrnas Unedig, ac eithrio lle gohiriwyd ei symud o'r Deyrnas Unedig yn ysgrifenedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol; neu
(c) y bernir gan yr awdurdodau mewnfudo ei fod neu ei bod yn fewnfudwr anghyfreithlon sydd heb gael caniatâd wedyn i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig ac eithrio person y caniatawyd iddynt aros yn y Deyrnas Unedig gyda chydsyniad ysgrifenedig yr Ysgrifennydd Gwladol; neu
(d) sy'n ddinesydd un o Wladwriaethau'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Ysgrifennydd Gwladol wedi'i gwneud yn ofynnol iddynt ymadael â'r Deyrnas Unedig; neu
(e) nad yw fel arfer yn preswylio yn y Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, ond ni chaiff unrhyw berson ei drin fel pe na bai fel arfer yn preswylio yn y Deyrnas Unedig—
(i) sy'n weithiwr at ddibenion Rheoliad (EEC) Rhif 1612/68 y Cyngor neu (EEC) Rhif 1251/70 neu'n berson sydd â hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn unol â Chyfeireb Rhif 68/360/EEC y Cyngor neu Rif 73/148/EEC; neu
(ii) sy'n ffoadur, h.y., yn berson a gofnodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel ffoadur o fewn y diffiniad yn Erthygl 1 o'r Confensiwn ynglŷn â Statws Ffoaduriaid (Gorch.9171).
(iii) y rhoddwyd caniatâd eithriadol iddynt aros yn y Deyrnas Unedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol; neu
(iv) sy'n dod o fewn paragraff (2)(b) unchod; neu
(v) sy'n destun gorchymyn alltudio yn ei gwneud yn ofynnol iddo/iddi ymadael ac yn eu gwahardd rhag dod i mewn i'r Deyrnas Unedig, ac y gohiriwyd eu symud o'r Deyrnas Unedig yn ysgrifenedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol; neu
(vi) y bernir gan yr awdurdodau mewnfudo eu bod yn fewnfudwr anghyfreithlon, na roddwyd caniatâd wedyn iddynt ddod i mewn nac aros yn y Deyrnas Unedig ond y caniatawyd iddynt aros yn y Deyrnas Unedig gyda chydsyniad ysgrifenedig yr Ysgrifennydd Gwladol; neu
(f) y rhoddwyd caniatâd iddynt ddod i mewn, neu aros, yn y Deyrnas Unedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar ymrwymiad a roddwyd gan berson arall neu bersonau eraill yn ysgrifenedig i fod yn gyfrifol am eu cynhaliaeth a'u llety; ac nad yw ef/hi wedi bod yn preswylio yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o 5 mlynedd o leiaf gan ddechrau o p'un bynnag yw'r olaf sef y dyddiad mynediad neu'r dyddiad y rhoddwyd yr ymrwymiad mewn perthynas ag ef/hi; neu
(g) tra'u bod yn berson y mae paragraff (1) neu unrhyw un o is-baragraffau (a) i (d) ac (f) o'r paragraff hwn yn gymwys iddynt, sy'n cyflwyno cais i'r Ysgrifennydd Gwladol, sydd heb ei benderfynu'n derfynol, am loches o dan y Confensiwn mewn perthynas â Statws Ffoaduriaid.